Beth alla i ei astudio?
Mae dau lwybr ar gael:
Os ydych eisoes yn gweithio mewn ysgol mewn rôl nad yw'n ymwneud â dysgu, mae'r llwybr cyflogedig yn caniatáu i chi ddod yn athro neu athrawes ochr yn ochr â'ch dyletswyddau presennol. Mae hyn yn golygu y gallwch barhau i weithio yn eich ysgol, a chefnogir costau astudio trwy grant hyfforddi gan Lywodraeth Cymru. Hyd yn oed os nad ydych yn gweithio mewn ysgol, ond eich bod eisiau dod yn athro neu athrawes, gallwch ymgeisio am y llwybr cyflogedig beth bynnag, mewn pynciau sydd â phrinder o athrawon mewn ysgolion uwchradd. Cynigiwn y cyfnodau oedran neu bynciau a ganlyn ar hyn o bryd:
- Cynradd, Uwchradd Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg, Saesneg, Dylunio a Thechnoleg, Cyfrifiadura/TGCh.
- Yn newydd ar gyfer 2025: Ieithoedd Tramor Modern Uwchradd
I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr hwn, ewch i'n gwefan.
Os ydych am newid gyrfa, neu fod gennych gyfrifoldebau gofalu, gallai ein llwybr rhan amser eich helpu i gyflawni gwell cydbwysedd o ran bywyd a gwaith, wrth i chi hyfforddi i ddod yn athro neu athrawes. Gallwch gydbwyso'r ymrwymiadau yn eich bywyd ochr yn ochr ag astudio ac ennill profiad ymarferol o addysgu mewn ysgol ar sail rhan amser. Cynigiwn y cyfnodau oedran neu bynciau a ganlyn ar hyn o bryd:
- Cynradd, Uwchradd Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg, Saesneg, Saesneg gyda Drama, Saesneg gydag Astudiaethau'r Cyfryngau, Dylunio a Thechnoleg, Cyfrifiadura/TGCh
- Yn newydd ar gyfer 2025: Ieithoedd Tramor Modern Uwchradd
I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr hwn, ewch i'n gwefan.
Fe gewch gymorth pob cam o'r ffordd
Mae cymorth ar gael ar gyfer bob cam o'ch taith, o wneud cais, i raddio. Byddwch yn derbyn eich dysg ac yn cael eich addysgu gan y brifysgol trwy gyfrwng yr amgylchedd dysgu rhithwir, ac fe'ch cefnogir gan Diwtor Cwricwlwm a fydd yn arbenigwr yn y maes a ddewiswyd gennych. Yn ystod dysgu drwy ymarfer mewn ysgol, fe'ch cefnogir gan fentor a chydlynydd ysgol a fydd yn darparu cymorth a chyngor ymarferol i chi ar eich taith i addysgu.